SL(6)243 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022

Cefndir a diben

Pan ddaw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) i rym, bydd y rhan fwyaf o’r tenantiaethau presennol yn cael eu trosi’n gontractau meddiannaeth yn rhinwedd adran 240.

Ar hyn o bryd, pan nad yw tenantiaeth sicr neu fyrddaliadol sicr bresennol yn cynnwys cyfnod amrywio rhent, mae adran 13 o Ddeddf Tai 1988 (“Deddf 1988”) yn caniatáu i’r landlord amrywio’r rhent drwy gyflwyno hysbysiad i’r tenant. Os yw’r tenant yn anfodlon ar yr hysbysiad amrywio, caiff wneud cais i bwyllgor asesu rhenti bennnu’r rhent ar gyfer yr annedd. Bydd y pwyllgor asesu rhent yn pennu’r rhent yn unol ag adran 14 o Ddeddf 1988, a hwn fydd y rhent ar gyfer yr annedd, oni bai bod y landlord a’r tenant yn cytuno fel arall.

Mae adrannau 104 a 123 o Ddeddf 2016 yn caniatáu i’r landlord, o dan gontract diogel neu gontract safonol cyfnodol yn y drefn honno, roi hysbysiad i ddeiliad y contract yn amrywio’r rhent. Nid yw Deddf 2016 yn cynnwys mecanwaith i ddeiliad y contract geisio penderfyniad ar rent gan bwyllgor asesu rhenti.

Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau”) yn ceisio ailadrodd y darpariaethau presennol o dan adrannau 13 a 14 o Ddeddf 1988 mewn perthynas â chontractau perthnasol wedi eu trosi.

Mae contract meddiannaeth yn “gontract wedi ei drosi perthnasol” os oedd, yn union cyn i adran 239 o Ddeddf 2016 ddod i rym, yn denantiaeth yr oedd adran 13 o Ddeddf 1988 yn gymwys iddi. Bydd deiliad contract o dan gontract wedi ei drosi perthnasol yn parhau i fod â’r hawl i wneud cais i bwyllgor asesu rhenti am benderfyniad ar y rhent, yn dilyn hysbysiad amrywio rhent gan y landlord.

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y naw pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Mae'r Pwyllgor yn nodi bod anghysondebau rhwng testunau Cymraeg a Saesneg y Rheoliadau.

Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “gwelliant perthnasol”, ym mharagraff (a), mae'r geiriau sy'n cyfateb i “of the Act” ar goll o'r testun Cymraeg.

Mae dau wall gramadegol yn rheoliad 6 o’r testun Cymraeg, sy’n creu dryswch o ran dehongli’r geiriau agoriadol cyn paragraff (a):

·         Mae’r geiriau “gael ei osod” (“to be let”) yn cynnwys ffurf wrywaidd y rhagenw “ei”, gan achosi i “gosod” (“let”) dreiglo’n feddal. Gan fod y rhagenw hwn yn cyfeirio'n ôl at “annedd” (“dwelling”), enw benywaidd yn y Gymraeg, dylai'r ymadrodd fod “gael ei gosod”, oherwydd nid oes treiglad meddal ar ôl y ffurf fenywaidd ar “ei”. Mae'r treiglad meddal yn dangos bod yr “ei” yn wrywaidd, sy'n creu dryswch ynghylch pa enw y mae'r rhagenw hwnnw'n ei ddisodli.

·         Defnyddir y rhagenw benywaidd “hi” yn “ymwneud â hi” fel y cyfieithiad ar gyfer “relates” wrth gyfeirio’n ôl at “…yr un math o gontract wedi ei drosi perthnasol” (“…the same type of relevant converted contract”). Mae’r defnydd o’r ffurf wrywaidd “math” (yn hytrach na'r ffurf fenywaidd “yr un fath”) yn awgrymu y dylid defnyddio’r rhagenw gwrywaidd ar gyfer “relates”, fel ei fod yn darllen “ymwneud ag ef”. Mae defnyddio'r rhagenw benywaidd felly yn peri dryswch ynghylch dehongliad y ddarpariaeth.

Yn y ffurf yn yr Atodlen, yng nghwestiwn a) o Ran 8, mae’r geiriau sy’n cyfateb i “or licence(s)” ac “or licence” ar goll o’r testun Cymraeg.

Atgoffir Llywodraeth Cymru bod gan destunau Cymraeg a Saesneg y Rheoliadau statws cyfartal, a bod yn rhaid cymryd gofal i sicrhau cysondeb.

2. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae rheoliad 2 yn darparu bod i “contract wedi ei drosi perthnasol” yr ystyr a roddir gan baragraff 15(3) o Atodlen 12 i Ddeddf 2016, sydd fel a ganlyn:

Mae contract yn gontract wedi ei drosi perthnasol os oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth yr oedd adran 13 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (codiadau rhent o dan denantiaethau cyfnodol sicr) yn gymwys iddi.

Mae rheoliad 2 wedyn yn diffinio “tenantiaeth neu drwydded flaenorol berthnasol” drwy gyfeirio at y diffiniad o “contract wedi ei drosi perthnasol”, a “tenant neu drwyddedai perthnasol” drwy gyfeirio at y diffiniad o “tenantiaeth neu drwydded flaenorol berthnasol”.

Mae cyfeiriadau eraill at “trwydded” a “trwyddedai” mewn diffiniadau eraill yn rheoliad 2, yn rheoliadau 6 ac 8 ac ar y ffurf ragnodedig yn yr Atodlen.

Dim ond os oedd yn flaenorol yn denantiaeth yr oedd adran 13 o Ddeddf 1988 yn gymwys iddi y mae contract wedi ei drosi yn “contract wedi ei drosi perthnasol”. Mae'n aneglur felly sut y gallai trwydded sydd wedi ei throsi i gontract meddiannaeth gan Ddeddf 2016 byth fod yn gontract wedi ei drosi perthnasol.

Nid yw'r Nodyn Esboniadol na'r Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio o gwbl at y Rheoliadau sy'n gymwys mewn perthynas â thrwyddedau neu drwyddedeion.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio’r sail ar gyfer cynnwys y termau “trwydded” a “trwyddedai” drwy’r Rheoliadau ac ar y ffurf ragnodedig.

3. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae'n ymddangos bod y diffiniad o “gwelliant perthnasol” yn rheoliad 2 yn seiliedig ar y diffiniad a nodir yn adran 14(3) o Ddeddf 1988 (“diffiniad Deddf 1988”). Mae diffiniad Deddf 1988 yn cyfeirio at welliant a wnaed yn ystod y denantiaeth. Mewn cyferbyniad, mae paragraff (a) o’r diffiniad yn rheoliad 2 yn cyfeirio at welliant “a wnaed mewn perthynas â’r contract wedi ei drosi perthnasol”. Mae’r gwaith drafftio hwn yn awgrymu bod y gwelliant, o dan y Rheoliadau, i delerau’r contract, yn hytrach nag i’r annedd.

Gan fod y Rheoliadau’n ceisio parhau i gymhwyso adran 14 o Ddeddf 1988 i gontractau wedi eu trosi perthnasol, mae’n ymddangos bod gwaith drafftio paragraff (a) o’r diffiniad yn rheoliad 2 yn ddiffygiol.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio pam y mae paragraff (a) o’r diffiniad yn y Rheoliadau yn wahanol i ddiffiniad Deddf 1988.

4. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae paragraff (b) o'r diffiniad o “gwelliant perthnasol” yn rheoliad 2 yn aneglur.

Mae diffiniad Deddf 1988 yn darparu bod gwelliant perthnasol yn un a oedd naill ai:

·         Wedi ei wneud yn ystod y denantiaeth y mae’r amrywiad rhent yn ymwneud â hi, neu

·         Wedi ei wneud yn ystod tenantiaeth sicr neu denantiaeth fyrddaliadol sicr flaenorol o fewn y cyfnod o 21 mlynedd cyn dyddiad cyflwyno’r hysbysiad.

Nid yw’n ymddangos bod paragraff (b) o’r diffiniad yn rheoliad 2 yn cael yr un effaith â’r ail linyn o ddiffiniad Deddf 1988. Yn benodol, mae’r defnydd o’r term diffiniedig “[t]enantiaeth… flaenorol berthnasol” ym mharagraff (b)(ii) a (iii) o’r diffiniad yn rheoliad 2 yn peri dryswch. Dim ond os oedd yn bodoli cyn i adran 239 o Ddeddf 2016 ddod i rym ac os daeth yn gontract wedi ei drosi perthnasol pan ddaeth adran 239 i rym neu ar ôl hynny y caiff tenantiaeth flaenorol fod yn “tenantiaeth flaenorol berthnasol”. Mae hyn yn golygu nad yw gwelliannau a wnaed gan ddeiliad y contract yn ystod tenantiaethau blaenorol o fewn cwmpas paragraff (b), ond gallai’r rhain fod wedi bod o fewn cwmpas y rhan gyfatebol o ddiffiniad Deddf 1988.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio pam y mae’r diffiniad o “gwelliant perthnasol” yn rheoliad 2 yn wahanol i ddiffiniad Deddf 1988.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru hefyd egluro’r gwahaniaeth rhwng paragraffau (a) a (b) o’r diffiniad yn rheoliad 2. Mae'n ymddangos bod y paragraffau hyn yn cwmpasu'r un amgylchiadau, yn wahanol i ddiffiniad Deddf 1988 a oedd yn amlwg yn rhagweld dwy set o amgylchiadau ar wahân.

5. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae rheoliad 6 yn nodi’r tybiaethau sydd i’w gwneud gan bwyllgor asesu rhenti wrth wneud penderfyniad ar rent ar gyfer annedd o dan gontract wedi ei drosi perthnasol. Mae dwy agwedd ar y rheoliad hwn yn aneglur:

·         Mae’r geiriau cyn paragraff (a) yn cyfeirio at yr annedd sy’n cael ei gosod ar y farchnad agored “o dan yr un math o gontract wedi ei drosi perthnasol”. Nid yw defnyddio’r term diffiniedig “contract wedi ei drosi perthnasol” yn gwneud synnwyr yn y cyd-destun hwn. Mae’n ymddangos mai’r hyn a olygir yma (ac ym mharagraff (a) ei hun) yw “contract meddiannaeth o’r un math â’r contract wedi ei drosi perthnasol”.

·         Mae paragraff (c) yn nodi tybiaeth yn ymwneud â gwelliannau perthnasol. Mae diffyg eglurder o ran yr hyn y caniateir ei gynnwys yn y dybiaeth hon, yn enwedig pan ddarllenir paragraff (c) ochr yn ochr â’r diffiniadau o “gwelliant perthnasol” a “tenant… perthnasol” yn rheoliad 2, a’r cwestiynau yn Rhan 8 o’r ffurf ragnodedig yn yr Atodlen.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro ei bwriadau mewn perthynas â’r tybiaethau hyn. Gofynnir i Lywodraeth Cymru hefyd a yw o’r farn bod gwaith drafftio rheoliad 6 yn ddigon clir i alluogi’r darllenydd i ddeall ystyr y ddeddfwriaeth.

6. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae rheoliad 8(2) yn diwygio “rheoliad 2” o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971 (“Rheoliadau 1971”). Yn lle hynny, dylai gyfeirio at “rheoliad 2(2)”, i nodi'n glir y paragraff o reoliad 2 sy'n cael ei ddiwygio.

7. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae rheoliad 8(2)(b) yn mewnosod diffiniadau yn Rheoliadau 1971. Mae’r diffiniad a fewnosodir o denantiaeth neu drwydded flaenorol berthnasol fel a ganlyn:

“relevant preceding tenancy or licence” means a tenancy or licence which existed before the appointed day and which on or after the appointed day became a relevant converted contract;

Fodd bynnag, nid yw’r diffiniad o’r diwrnod penodedig yn y cyd-destun hwn, a nodir yn adran 242 o Ddeddf 2016, wedi ei fewnosod yn Rheoliadau 1971.

8. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae rheoliad 3(3) o Reoliadau 1971 yn ymwneud â rhoi hysbysiad o wrandawiad. Mae is-baragraffau (a) a (b) yn nodi’r gofynion mewn perthynas â dau amgylchiad penodol, ac mae is-baragraff (c) yn ddarpariaeth dal popeth sy’n gymwys “ym mhob achos arall”.

Mae rheoliad 8(4) o’r Rheoliadau yn mewnosod y geiriau “relevant tenant or licensee, or relevant contract-holder” yn rheoliad 3(3)(c) o Reoliadau 1971. Mae hyn yn gwneud y ddarpariaeth dal popeth yn rhy gymhleth ac anodd ei deall.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru a ystyriodd, yn lle hynny, fewnosod darpariaeth rhwng is-baragraffau (b) ac (c) o reoliad 3(3), i sicrhau bod gofynion rhybudd Rheoliadau 1971 mewn perthynas â chontractau wedi eu trosi perthnasol yn glir.

9. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae rheoliad 8(5)(a) yn honni ei fod yn disodli'r geiriau “assured tenancies or agricultural occupancies” yn rheoliad 5(1)(b) o Reoliadau 1971. Fodd bynnag, y geiriad presennol yn rheoliad 5(1)(b) yw “assured tenancies or assured agricultural occupancies” (pwyslais wedi ei ychwanegu). Mae’n anglur felly sut y gallai’r diwygiad fel y’i drafftiwyd ddod i rym.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

10. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae’r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau gweddol gymhleth a fydd o ddiddordeb i ddeiliaid contract sydd am herio hysbysiad amrywio rhent. Gofynnir i Lywodraeth Cymru a fydd canllawiau ar gael i helpu deiliaid contract i ddeall eu hawliau o dan y Rheoliadau.

Mae'r ffurf ragnodedig a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau yn gofyn am wybodaeth y mae'n amlwg ei bod yn hynod berthnasol i benderfyniad gan bwyllgor asesu rhenti. Fodd bynnag, mae’r ffurf yn cynnwys ychydig iawn o ganllawiau i ddeiliaid contract, a all gael trafferth ateb y cwestiynau’n ddigon manwl (er enghraifft, mewn ymateb i Ran 8, mae’n bosibl nad yw deiliad y contract yn ymwybodol o weithredoedd unrhyw gyn-denant arall). Gofynnir i Lywodraeth Cymru a fydd canllawiau i gyd-fynd â’r ffurf ragnodedig.

11. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Ni chynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol mewn perthynas â'r Rheoliadau. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn rhoi’r esboniad a ganlyn:

O ystyried natur gul a thechnegol y rheoliadau hyn, y diben syml i gadw'r rheoliadau presennol, penderfynwyd nad oedd angen cynnal ymgynghoriad traddodiadol.  Yn hytrach, rhannwyd yr Offeryn Statudol drafft â grŵp o randdeiliaid allweddol a chanddynt ddiddordeb yn y materion hyn, a chafodd eu safbwyntiau eu hystyried wrth lunio'r rheoliadau terfynol.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru a oedd y rhanddeiliaid yr ymgynghorwyd â hwy ar y Rheoliadau drafft yn cynnwys cynrychiolwyr landlordiaid a thenantiaid.

12. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mewn nifer o leoedd, nid yw'r Rheoliadau'n dilyn y canllawiau drafftio a nodir yn Drafftio Deddfau i Gymru. Er enghraifft:

·         Yn rheoliad 2, yn y testun Cymraeg, nid yw rhai o’r diffiniadau yn y rhestr wedi’u trefnu’n gywir yn ôl yr wyddor Gymraeg (Drafftio Deddfau i Gymru 4.15(2)).

·         Yn rheoliad 8(2)(a) ac (c) dylai ffurf y geiriau yn y testun Saesneg fod “for X substitute Y” yn lle “replace X with Y” (Drafftio Deddfau i Gymru 7.3(2)).

·         Yn y troednodiadau, dylid cyfeirio at offerynnau statudol drwy ddyfynnu yn hytrach na theitl llawn (Drafftio Deddfau i Gymru 6.10(6) ac nid oes angen ailadrodd dyfyniadau mewn troednodiadau dilynol (Drafftio Deddfau i Gymru 6.10(2))).

Atgoffir Llywodraeth Cymru o'r angen i ddilyn canllawiau drafftio perthnasol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Pwynt Craffu Technegol 1:

Mae Llywodraeth Cymru yn diolch i’r Pwyllgor am godi’r pwyntiau hyn a bydd yn gwneud y diwygiadau priodol cyn i’r Rheoliadau ddod i rym.

Pwynt Craffu Technegol 2:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried pwynt craffu technegol 2 ac yn atgyfeirio’r Pwyllgor â pharch i baragraff 15(3) o Atodlen 12, fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) (Diwygio Atodlen 12) 2022/795, sy’n darparu:

(3)  Mae contract wedi ei drosi yn gontract wedi ei drosi perthnasol—

(a)  os oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded yr oedd adran 13 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (codiadau rhent o dan denantiaethau cyfnodol sicr) yn gymwys iddi.

Felly nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod diwygiad yn angenrheidiol i gyflawni’r effaith gyfreithiol a fwriedir.

Pwynt Craffu Technegol 3:

Mae Llywodraeth Cymru yn diolch i’r Pwyllgor am godi’r pwynt hwn. Tra bod Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y drafftio presennol yn cyflawni’r effaith gyfreithiol gywir yn ddigonol, gwneir diwygiadau i egluro mai’r gwelliannau y cyfeirir atynt yw’r rheini a gyflawnir mewn perthynas â’r annedd sy’n destun y contract wedi ei drosi.

Pwynt Craffu Technegol 4:

Mae Llywodraeth Cymru yn diolch i’r Pwyllgor am godi’r pwynt hwn a bydd yn gwneud y diwygiadau priodol cyn i’r Rheoliadau ddod i rym. Bydd y diwygiad yn cynnwys ail-weithio’r diffiniad o “gwelliant perthnasol” felly nid oes angen unrhyw eglurhad pellach mewn ymateb i’r pwynt hwn.

Pwynt Craffu Technegol 5:

Wrth ymateb i’r pwynt bwled cyntaf ym mhwynt craffu technegol 5 mae Llywodraeth Cymru yn diolch i’r Pwyllgor am godi’r pwynt hwn a bydd yn gwneud diwygiadau priodol cyn i’r Rheoliadau ddod i rym i egluro ystyr y ddeddfwriaeth.

Mewn perthynas â’r ail bwynt bwled ym mhwynt craffu technegol 5, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod yr effaith a fwriedir yn glir, sef os nad yw unrhyw welliant yn cael ei gyflawni yn unol â rhwymedigaeth, neu pan fo rhwymedigaeth yn codi ond nid yw’n ymwneud â’r gwelliant penodol o dan sylw, yna mae’r gwelliant hwnnw yn cael ei ddisgowntio at ddibenion pennu rhent.

Pwynt Craffu Technegol 6:

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried, yn ymarferol, fod y diwygiadau yn gweithio gan ei bod yn glir pa ddiwygiadau sydd eu hangen ar sail cyd-destun rheoliad 8 a’r cyfeiriad penodol at y darpariaethau yn rheoliad 2 o Reoliadau 1971 sydd angen eu diwygio, felly mae Llywodraeth Cymru yn ystyried nad oes angen unrhyw ddiwygiadau pellach.

Pwynt Craffu Technegol 7:

Mae Llywodraeth Cymru yn diolch i’r Pwyllgor am godi’r pwynt hwn a bydd yn gwneud y diwygiadau priodol cyn i’r Rheoliadau ddod i rym.

Pwynt Craffu Technegol 8:

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mewnosod darpariaeth rhwng is-baragraffau (b) ac (c) o reoliad 3(3), er mwyn sicrhau bod gofynion hysbysu Rheoliadau 1971 mewn perthynas â chontractau wedi eu trosi perthnasol yn glir. Nid yw Llywodraeth Cymru o’r farn bod y mewnosodiad fel y’i drafftiwyd yn or-gymhleth nac yn aneglur.

Pwynt Craffu Technegol 9:

Mae Llywodraeth Cymru yn diolch i’r Pwyllgor am godi’r pwynt hwn a bydd yn gwneud y diwygiadau priodol cyn i’r Rheoliadau ddod i rym.

Pwynt Craffu ar Rinweddau 10:

Ar y cyfan mae’r ffurflen ragnodedig yn atgynhyrchu’r ffurflen bresennol a ddefnyddir gan y Tribiwnlys Eiddo Preswyl (TEP). Mae’r TEP yn darparu llyfryn canllaw i fynd gyda’r ffurflen hon a bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r TEP i wneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i’r llyfryn canllaw hwn.

Pwynt Craffu ar Rinweddau 11:

Oeddent, roedd rhanddeiliaid sy’n cynrychioli landlordiaid a thenantiaid yn rhan o’r grŵp ymgynghori â rhanddeiliaid, gan gynnwys Cymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl, Urdd Landlordiaid Preswyl, Shelter Cymru, Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid, Cyngor ar Bopeth ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

26 Awst 2022